Angladd ar ôl trasiedi arall i un teulu
- Cyhoeddwyd

Mi gafodd angladd merch 18 oed a gafodd ei lladd mewn damwain car ei chynnal brynhawn Sadwrn.
Ddwy flynedd yn gynt mi gafodd ei brawd, Casey Breese oedd yn 12 oed ei ladd pan ddisgynnodd gol pêl droed arno.
Roedd Kelly Breese mewn car Vauxhall Corsa pan darodd y car yn erbyn coeden yn agos i'r Drenewydd ym Mhowys 13 o Hydref. Er i'r gwasanaethau brys geisio achub ei bywyd mi fuodd hi farw yn y fan a'r lle.
Mi ddywedodd ei theulu ei bod hi wedi dod a "llawenydd a chariad i'w bywydau."
Mi oedd Casey Breese yn chwarae gyda'i ffrindiau ar gaeau chwarae pan gafodd ei ladd. Penderfynodd rheithgor mewn cwest mai marw'n ddamweiniol a wnaeth.
Mi ddywedwyd yn ystod yr achos fod y pyst yn "ansefydlog" a ddim wedi eu clymu i'r llawr.
"Trysori'r atgofion"
Mae swyddogion o glwb pêl droed Caersws wedi ymddangos o flaen y llys wedi eu cyhuddo o dorri rheolau iechyd a diogelwch yn sgil ei farwolaeth a'r achos wedi ei ohirio.
Mewn teyrnged i'w merch ar ôl y ddamwain angheuol dywedodd rhieni Kelly, Shan a Nick Breese: "Fel teulu mi ydyn ni yn galaru ar ôl i ni golli plentyn arall.
"Mi ddaeth Kelly â llawer o hapusrwydd a chariad i'n bywydau ni ac mi fyddwn ni yn trysori'r atgofion. Mi fydd eu chwiorydd Natasha a Laura yn cofio'r adegau da.
"Mae'r cyfnod yma yn un anodd iawn i ni, i'r teulu estynedig a ffrindiau agos. Rydyn ni eisiau amser i alaru ac yn gofyn am breifatrwydd i gael gwneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012