Dyn yn marw ar ôl bod mewn afon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei dynnu o Afon Lwyd ger Cwmbrân.
Cafodd yr heddlu ei galw tua 1pm a darganfod y dyn 37 oed o Griffithstown yn y dŵr.
Er bod ymdrechion i achub ei fywyd mi fuodd farw.
Dydy'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.