Marathon Eryri: Y fwyaf erioed
- Cyhoeddwyd

Bydd marathon Eryri yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn gyda'r nifer mwyaf erioed yn cystadlu.
Cafwyd 2,200 o geisiadau i gystadlu yn y ddau fis cyntaf wedi i'r rhestr cystadleuwyr agor yn gynharach eleni.
Mae'r ras yn cael ei hystyried fel un o'r rhai anoddaf ym Mhrydain.
Dyma'r 31ain gwaith i'r ras ddigwydd ac mi fydd rhedwyr ar draws y byd yn heidio i Lanberis lle mae'r ras yn cychwyn.
Mae Jayne Lloyd, un o'r trefnwyr yn dweud ei bod wedi ei synnu eto gyda'r nifer sydd wedi talu i wneud y marathon.
"Mae'r galw am y digwyddiad eto yn 2013 wedi ein llethu," meddai.
"Mi gafon ni bron i 400 o geisiadau ar gyfer y ras yn y diwrnod cyntaf. Er bod y llefydd wedi llenwi yn gyflym y llynedd mae 2013 wedi bod yn flwyddyn lle mae'r record wedi ei thorri.
"Dw i'n credu fel tîm sydd yn trefnu rydyn ni yn teimlo yn falch bod y ras mor boblogaidd â'i bod hi'n cael canmoliaeth gan redwyr, noddwyr, partneriaid a'r gymuned leol."
Mae'n dweud bod defnyddio gwefannau cymdeithasol hefyd wedi helpu gan eu bod nhw'n medru cadw mewn cysylltiad gyda'r rhai sydd yn cystadlu a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw.