Gweinidog o dan y lach

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies AMFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod rhai fwya'r feirniadaeth yn "anghywir"

Mae pwyllgor wedi dweud nad yw'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi bod yn ddigon pendant wrth ateb cwestiynau.

Mewn llythyr i bwyllgor cyllid y Cynulliad mae'r pwyllgor amgylchedd hefyd wedi dweud bod 'na broblemau rheoli cyllid a chynllunio o fewn ei adran.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhan fwya' elfennau'r feirniadaeth yn "anghywir".

Dywedodd aelodau'r pwyllgor amgylchedd eu bod yn anfodlon ar ymddygiad y gweinidog wrth ei holi ac wrth graffu ar gyllideb ddrafft ei adran.

'Anghyson'

Maen nhw wedi honni ei fod wedi rhoi gwybodaeth "anghyson" am ei bortffolio.

Ar Hydref 16 roedd Mr Davies gerbron y pwyllgor amgylchedd ac roedd sylwadau blin rhwng y cadeirydd Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas a'r gweinidog wrth drafod cyllideb ei adran.

Yn ôl llythyr y pwyllgor amgylchedd: "Cafodd nifer o gwestiynau eu hosgoi neu wybodaeth anghyson ei darparu."

Wedyn dywedodd y llythyr: "Rydym yn credu bod ymagwedd yr adran at reolaeth ariannol yn rhwystro tryloywder cyffredinol.

'Asesiad'

"Nid oes modd i ni felly gynnal asesiad ar brioldeb y gyllideb ac os yw'n darparu gwerth am arian."

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol William Powell: "Petai'r gweinidog ond yn treulio mwy o amser yn trin ei swydd gyda'r proffesiynoldeb a'r parch y mae'n ei haeddu, yn hytrach na chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth lwythol, efallai na fyddai'r pryderon difrifol yn dod i'r fei."

Mae Uned Wleidyddol BBC Cymru yn deall y bydd Mr Davies yn cael ei alw gerbron y pwyllgor cyllid.