Pro 12: Rhanbarthau Cymru
- Cyhoeddwyd

Zebre 16-16 Scarlets
Roedd hi'n gêm gyfartal 16-16 rhwng y Scarlets a Zebre yng nghynghrair y Rabodirect Pro12 nos Wener.
Y sgôr ar yr egwyl yn yr Eidal oedd 10-10.
Cafodd Davies gais i'r Cymry a chiciodd Shingler a Priestland (2) giciau cosb. Trosodd Shingler.
Garcia groesodd y llinell i'r Eidalwyr. Ciciodd Iannone (2) ac Orquera giciau cosb a throsodd Iannone.
Gweilch 40-17 Dreigiau
Llwyddodd Justin Tipuric i sgorio dau gais yn erbyn y Dreigiau ar y Liberty.
Ciciodd Dan Biggar 17 o bwyntiau ac roedd cais Scott Baldwin yn golygu pwynt bonws.
Tom Prydie a Francisco Chaparro sgoriodd geisiau i'r Dreigiau.
Trosodd Kris Burton a chicio cic adlam.
Roedd pryder am fod wythwr y Dreigiau Toby Faletau wedi anafu ei wddf ac yn gorfod mynd i Ysbyty Treforys.
Ulster 39-21 Gleision
Sgoriodd Ulster bump o geisiau yn Ravenhill.
Dan Tuohy a Jared Payne groesodd y llinell gynta' cyn i Robin Copeland daro'n ôl i'r Cymry.
Ar yr egwyl y sgôr oedd 16-11.
Sgoriodd Luke Marshall gais i Ulster cyn i gais Richard Smith olygu ychydig o hunanbarch i'r Gleision.
Rhedodd Andrew Trimble fel milgi, gan ennill y pwynt bonws ac roedd cais Tuohy'n goron ar y cyfan.
Chwe buddugoliaeth yn olynol i Ulster.