Tad-cu a mam-gu yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn yr Uchel Lys
Mae mam-gu a thad-cu merch bump oed, sy' wedi bod ar goll, yn y ddalfa.
Roedd Brian a Patricia Davies, yn eu saithdegau ac o Bentyrch ger Caerdydd, yn yr Uchel Lys ddydd Gwener.
Dywedodd y barnwr eu bod wedi dweud celwydd yn y llys pan ofynnwyd am wybodaeth ble oedd y ferch.
Fe allai'r ddau gael eu carcharu yr wythnos nesa' am ddirmyg llys.
Dywedodd Mr Ustus Keehan ei fod yn credu bod gan y ddau wybodaeth am eu merch Jacqueline, athrawes 49 oed, a'u hwyres.
Cafodd merch arall y ddau, Melanie, ei chadw yn y ddalfa oherwydd dirmyg llys.
Mae hi'n wynebu cyfnod o garchar.