Cymru'n disgwyl newyddion am Faletau

Toby Faletau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Toby Faletau ei gario o'r maes wedi cyfnod o driniaeth ar y cae

Mae'n bosib na fydd Toby Faletau ar gael i chwarae yng nghyfres yr hydref wedi iddo gael ei anafu wrth chwarae i'r Dreigiau nos Wener.

Cafodd wythwr Cymru a'r Llewod anaf i'w wddf wrth daclo asgellwr y Gweilch Eli Walker wrth i'r Dreigiau herio'r Gweilch yn Stadiwm Liberty.

Cafodd y gêm ei stopio am bron ddeng munud wrth i Faletau gael ei osod mewn brês cyn cael ei gario o'r maes.

Yr awgrym cynnar yr mai mesur rhag ofn oedd hynny, ac mae disgwyl i sgan yn yr ysbyty ddatgelu mwy am yr anaf.

Dywedodd swyddog meddygol y Dreigiau Dr Rohit Kulkarni y byddai difrifoldeb yr anaf yn dod yn fwy amlwg "o fewn diwrnod neu ddau", ond mae'n gobeithio nad oes problem ddifrifol.

"Roedd ganddo beth poen yn ei wddf, ac wrth ddelio gydag anafiadau fel hyn mae'n rhaid i chi fod yn fwy gofalus nag arfer," meddai.

"Ein hamheuaeth yw nad oes rhywbeth mawr o'i le... ond rwy'n credu y byddwn ni'n gwybod mwy o fewn y diwrnod neu ddau nesaf."

Fe fyddai colli Faletau o'r garfan yn ergyd fawr i Gymru wrth baratoi i wynebu De Affrica ar Dachwedd 9 cyn y gemau yn erbyn Ariannin, Tonga ac Awstralia dros y tri phenwythnos wedi hynny.

Ryan Jones yw'r unig wythwr arall yn y garfan, ond fe allai Andrew Coombs neu Dan Lydiate hefyd lenwi'r bwlch fel mesur dros dro.

Mae gan Warren Gatland hefyd y dewis o alw rhywun arall i mewn i'r garfan os yw'n credu bod angen hynny.