Apêl yr heddlu wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Wrecsam wedi cyhoeddi apêl yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngresffordd nos Wener.
Bu car mewn gwrthdrawiad â sgwter anabledd yn Stryd Fawr y dref am 9:26pm.
Credir bod person oedrannus wedi cael eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd pobl leol bod y Stryd Fawr wedi ei chau am gyfnod ger y gyffordd â Ffordd Caer.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am gar glas, o bosib yn BMW, i ffonio'r heddlu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod P176634.