Canfod corff dyn yn aber Afon Hafren

  • Cyhoeddwyd
St Pierre Pill - photo by GH MyrtleFfynhonnell y llun, GHMyrtle
Disgrifiad o’r llun,
Mae harbwr St Pierre yng nghysgod ail bont Hafren

Mae dyn oedd ar goll o long yn aber Afon Hafren wedi cael ei ganfod yn farw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 11:00am fore Sadwrn pan sylwyd nad oedd unrhyw un ar fwrdd llong yn harbwr St Pierre ger Cas-gwent.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Abertawe bod perchennog y llong wedi bod yno nos Wener yn gwneud gwaith arni, a'i fod wedi cytuno i gyfarfod ffrind y bore canlynol.

Ond doedd dim golwg o'r dyn fore Sadwrn.

Roedd Heddlu Gwent wedi ymuno yn y chwilio, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y dyn o ardal Swindon yn y dŵr am 1:55pm ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, a bod swyddogion arbenigol yn cynnig cefnogaeth i deulu'r dyn.