Dechrau ysblennydd i Gwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Rugby League World Cup opening ceremonyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y seremoni agoriadol ysblennydd o dan do Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd

Mae Cwpan Rygbi 13 y Byd wedi cael dechrau ardderchog gyda seremoni agoriadol ysblennydd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae trefnwyr y gystadleuaeth yn gobeithio am dorfeydd mwy nag erioed ar gyfer y gystadleuaeth.

Bu rhyw 1,500 o berfformwyr yn rhan o'r seremoni, ac fe fydd dwy gêm agoriadol y gystadleuaeth yn dilyn wrth i Loegr herio Awstralia am 2:30pm ac yna Cymru yn erbyn Yr Eidal am 4:30pm.

Roedd nifer o berfformwyr o Gymru yn y seremoni gan gynnwys llysgennad y gystadleuaeth Gareth Thomas, y cyflwynydd teledu Gethin Jones a'r delynores Catrin Finch.

Bydd 14 o dimau yn y gystadleuaeth wedi eu rhannu'r bedwar grŵp - dau grŵp o bedwar a dau grŵp o dri.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bydd 14 o wledydd yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi 13 y Byd eleni

Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones ei bod wedi bod yn anrhydedd cael bod yn y digwyddiad.

"Rwy'n falch iawn o chwarae rhan yn y seremoni agoriadol - dyma'r unig dro pan fydd yr 14 tîm yn y gystadleuaeth yn uno yn ystod Cwpan y Byd," meddai.

"Bydd Cwpan y Byd nid yn unig yn rhoi'r cyfle i ni ddod â chymunedau lleol yn rhan o'r peth, ond hefyd yn annog mwy o bobl o bob oed a gallu i chwarae'r gamp."

Bydd Cymru'n cynnal tair gêm arall yn y gystadleuaeth gyda'r tîm cenedlaethol yn herio'r Unol Daleithiau yn y Cae Ras yn Wrecsam ar Dachwedd 3 ac yna Ynysoedd Cook ar y Gnoll yng Nghastell-nedd ar Dachwedd 10, ac fe fydd un o'r gemau yn rownd yr wyth olaf hefyd yn cael eu cynnal ar y Cae Ras.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol