Casnewydd 3-1 Southend

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Casnewydd 3-1 Southend

Mae Casnewydd yn parhau i ddringo'r tabl ar ôl sicrhau tri phwynt arall yn erbyn Southend.

Roedd yr Alltudion ar y blaen yn gynnar wrth i Connor Washington rwydo, ond yna daeth pum munud o gyffro cyn yr egwyl.

Daeth Southend yn gyfartal gyda gôl orau'r gêm - cic rydd i'r gornel uchaf gan Ben Coker - ond o fewn dim roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen drwy beniad Andrew Hughes.

Wedi wyth munud o'r ail gyfnod, aeth Casnewydd ymhellach ar y blaen gyda pheniad Ismail Yakubu.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i'r seithfed safle yn y tablm sef un o'r safleoedd y gemau ail gyfle.