Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe yn oriau man fore Sul lle cafodd gyrrwr ei ladd.

Roedd car Vauxhall Astra yn teithio ar hyd Ffordd Ynys Penllwch yng Nghlydach pan fu mewn gwrthdrawiad â wal.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 1:10am fore Sul, ond roedd gyrrwr y car wedi marw.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a wnaeth aros i roi cymorth ac sydd heb adael eu manylion gyda'r heddlu.

Bu ffordd y B4291 ar gau am bedair awr wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un all fod o gymorth i ffonio Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r De ar 029 2063 3438 neu 101. Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.