Cofio canrif ers y corwynt mawr
- Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaeth arbennig ddydd Sul yn cofio canrif ers i gorwynt yn ne Cymru ladd tri pherson a difrodi rhannau helaeth o'r cymoedd.
Cafodd dros 100 o bobl eu hanafu pan darodd Corwynt Abercynon ar Hydref 27, 1913, gan daro ardal o Edwardsville i Gilfynydd, ac fe gafodd tua 1,000 o gartrefi eu difrodi.
Fe gostiodd dros £40,000 i lanhau'r difrod, sydd dros £3 miliwn yn arian heddiw.
Bydd y gwasanaeth eglwysig yn cael ei gynnal yn Edwardsville.
'Sŵn fel trên'
Mae Carol Quick yn byw ar un o'r strydoedd gafodd eu difrodi bryd hynny, ac mae'n dweud bod y stori wedi cael ei phasio o genhedlaeth i genhedlaeth ers hynny.
"Roedd fy nhad yn 13 oed ar y pryd," meddai, "ac roedd yn cofio pob manylyn o'r hyn ddigwyddodd.
"Dywedodd fod y sŵn fel trên stem yn dod i lawr y stryd. Roedd yn beth digon anghyffredin i weld ceir ar y stryd bryd hynny, ond yn rhyfeddach fyth eu gweld yn hedfan drwy'r awyr!"
Er mai dim ond am ryw ddau funud y parodd y corwynt, ni wnaeth neb fentro allan o'u cartrefi am hir. Pan wnaethon nhw roedd y delweddau yn drawiadol.
Yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn 2013, fe ddechreuodd y storm dros dde-orllewin Lloegr - Dyfnaint - cyn symud i'r gogledd dros dde Cymru.
Er hynny doedd dim adroddiadau o ddifrod i gartrefi yn Lloegr, ond roedd y stori'n wahanol wrth i'r storm gyrraedd arfordir deheuol Cymru.
'Glaw di-baid'
Mae cofnodion ar y pryd yn dangos sylwadau prifathro ysgol yn Edwardsville, Mr B P Evans, a ddywedodd:
"Cafodd ein ffenestri eu malu gan gerrig ac roedd teiliau, llechi to a phren wedi torri ymhobman.
"Fe symudon ni i gefn ein cartref, ond roedd cerrig yn dod drwy'r ffenestri a phethau eraill fel darnau o haearn a phethau tebyg.
"Fe glywson ni'r simnai yn disgyn o'r to yn y gwynt, a phan dawelodd y gwynt fe ddaeth y glaw di-baid."
Un o'r tri fu farw oedd C.Woolford oedd yn enwog yn lleol ac yn gapten ar dîm pêl-droed lleol Ton Pentre.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2013