Diswyddo Mike Phillips
- Cyhoeddwyd

Mae adran chwaraeon y BBC ar ddeall bod cytundeb mewnwr Cymru Mike Phillips wedi cael ei ddiddymu gan ei glwb Bayonne yn dilyn honiad iddo fynd i gyfarfod hyfforddi o dan ddylanwad alcohol.
Bu Phillips yn cyfarfod gyda swyddogion y clwb dros y penwythnos, ac fe gafodd wybod y bydd ei gytundeb yn cael ei ddirwyn i ben.
Fe fydd y chwaraewr 31 oed yn derbyn cadarnhad trwy lythyr ddydd Llun.
Ymunodd Phillips â Bayonne o'r Gweilch yn 2011, ac roedd ei gytundeb gyda'r clwb o Ffrainc i fod i redeg gan Fehefin 2014.
Ymddangosodd Phillips gerbron bwrdd y clwb ddydd Mawrth i ateb honiadau iddo gyrraedd am sesiwn dadansoddi fideo o dan ddylanwad alcohol.
Roedd dau chwaraewr arall - Dwayne Haare a Stephen Brett - yn wynebu'r un honiad, ond Phillips oedd yr unig un o'r tri i gael ei wahardd.
Nos Iau fe ymddiheurodd Phillips i gefnogwyr Bayonne ar ei wefan Twitter.
Cafodd Phillips ei wahardd gan Bayonne am gamymddwyn oddi ar y cae yn flaenorol, ac fe gafodd waharddiad gan Gymru yn 2011 yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd.
Nid yw clwb Bayonne eto wedi cadarnhau ymadawiad Phillips.
Straeon perthnasol
- 24 Hydref 2013
- 21 Hydref 2013
- 8 Gorffennaf 2013