Henoed yn wynebu gaeaf anodd
- Cyhoeddwyd

Mae pobl oedrannus ar draws Cymru'n wynebu gaeaf anodd gydag ychydig neu ddim cysylltiad gyda'u cymdogion, yn ôl ymchwil newydd gan elusen yr RVS (Royal Voluntary Society).
Mae'r ymchwil yn dangos bod un o bob pum person dros 75 oed yng Nghymru - dros 50,000 o bobl - ddim yn nabod eu cymdogion agosaf.
Roedd bron ddau o bob pump wnaeth ymateb i'r arolwg yn dweud eu bod yn cael sgwrs gyda'u cymdogion dwywaith bob mis ar y mwyaf, ac fe ddywedodd 21% nad ydyn nhw byth yn siarad gyda'r bobl drws nesaf.
Ymhlith yr ystadegau pryderus eraill roedd :-
- 11% o bobl dros 75 oed yn dweud nad ydyn nhw'n credu y bydden nhw'n medru galw am gymorth gan gymdogion mewn argyfwng - rhai am nad ydyn nhw'n eu hadnabod a rhai am eu bod yn credu na fyddai'r cymdogion yn fodlon cynorthwyo;
- 46% yn credu bod pobl yn cadw atyn nhw'u hunain ac felly ddim yn teimlo eu bod yn medru gofyn am gymorth;
- 68% o bobl yn credu bod pobl Cymru yn llai cyfeillgar fel cymdogion nag oedden nhw ers talwm.
'Newid bywydau'
Dywedodd prif weithredwr yr RVS David McCullough: "Fe fyddai newid bach yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl oedrannus sydd, efallai, ddim yn gweld unrhyw un heblaw cymdogion am ddyddiau neu wythnosau ar y tro.
"Pan mae'n anodd mynd allan mae unigrwydd yn medru cael effaith ddifrifol ar iechyd a lles person hŷn.
"Mae rhannu amser yn gallu newid bywydau, ac fe all cymryd munud neu ddau i gael sgwrs gyda chymydog a gofalu eu bod yn iawn allu golygu'r gwahaniaeth rhwng diwrnod drwg ac wythnos dda.
"Dyna pam yr ydym yn galw ar bobl i roi o'u hamser i helpu pobl oedrannus yn eu cymuned."
Mae elusen yn RVS yn apelio ar bobl i ymuno gyda'u cynllun Cymydog Da.
Mae ganddyn nhw eisoes 40,000 o wirfoddolwyr ar draws Prydain, ac mae modd cael manylion am sut i wirfoddoli ar wefan yr elusen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013