Cynllun adfywio i 'hybu buddsoddiad'

  • Cyhoeddwyd
Gavin and Stacey cast on Barry beachFfynhonnell y llun, Baby Cow
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ynys y Barri'n enwog ers tro fel lleoliad y gyfres gomedi Gavin and Stacey

Bydd y gwaith yn dechrau'r wythnos hon ar gynllun gwerth £230 miliwn i adfywio Ynys y Barri.

Dywed Cyngor Bro Morgannwg y bydd y gwelliannau i Rhodfa'r Dwyrain yn dangos sut y bydd y cynllun o fudd i'r dref a'r Fro.

Bu'r dref yn enwog am wersyll gwyliau Butlin's flynyddoedd yn ôl, ac yn fwy diweddar fel lleoliad i'r gyfres gomedi Gavin and Stacey ar y BBC.

Cafodd cynlluniau ar gyfer cartrefi, caffis, gwesty a ffordd gyswllt newydd eu cymeradwyo gan Gynor Bro Morgannwg yng Ngorffennaf 2011.

'Dyfodol disglair'

Dywedodd arweinydd y cyngor Neil Moore: "Rydym yn credu fod hyn yn ddechrau ar ddyfodol disglair i Ynys y Barri...Ein bwriad yw gwella profiad ymwelwyr yma, ac mae'r gwaith ar Rhodfa'r Dwyrain yn esiampl o sut yr ydym yn gwella'r lle er budd y dref a'r Fro i gyd."

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau tua mis Mawrth nesaf.

Bu Ynys y Barri yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ers tua 150 o flynyddoedd. Yn ei anterth yn 1934 fe ddaeth 400,000 o ymwelwyr yno yn ystod penwythnos gŵyl y banc mis Awst.

Ffynhonnell y llun, Vale of Glamorgan council
Disgrifiad o’r llun,
Rhodfa'r Dwyrain fydd canolbwynt y gwaith

Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd adfywio Rhodfa'r Dwyrain yn denu mwy o ddiddordeb yn y safle, ac ychwanegodd Mr Moore:

"Mae'r cyngor yn marchnata safle Nell'r Point tan Ionawr 2014 ac fe ddylai adfywio Rhodfa'r Dwyrain gerllaw helpu i ddenu buddsoddiad pellach gan ddatblygwyr."

Cwmni WRW Construction Limited fydd yn gwneud y gwaith ar Rodfa'r Dwyrain, ac ni fydd mynediad i'r cyhoedd i'r safle dros gyfnod y gwaith am resymau iechyd a diogelwch.

Fe fydd llwybr cerdded Clemetn Colley yn aros ar agor i gerddwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol