Abertawe 0-0 West Ham

  • Cyhoeddwyd
Logo Abertawe

Mae clwb pêl-droed Abertawe bellach yn hanner uchaf tabl yr Uwchgynghrair yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn West Ham yn Stadiwm Liberty.

Roedd hi'n stori gyfarwydd ar un ystyr i'r Elyrch, gan iddyn sicrhau mwyafrif llethol y meddiant yn ystod y gêm.

Er hynny doedd fawr o awch i'r ymosod, ac er mai Abertawe gafodd y nifer fwyaf o ergydion at y gôl yn ystod y gêm, doedd dim byd yn tycio o flaen gôl.

Fe gafodd y ddau dîm eu cyfleoedd ac roedd rhaid i Michel Vorm fod ar ei orau ar adegau yn y gôl i'r Elyrch.

Mae'r pwynt yn codi Abertawe uwchben Newcastle, a gollodd yn gynharach yn y dydd, i'r degfed safle, ac fe all tîm Michael Laudrup droi eu golygon yn awr at y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd y penwythnos nesaf.