Teyrnged i ffotograffydd

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrnged wedi ei rhoi i'r ffotograffydd o Aberaeron Ron Davies sydd wedi marw yn 91 oed.

Dywedodd y ffotograffydd Keith Morris o Aberystwyth wrth y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru: "Roedd gan Ron y ddawn i fynd i mewn i gymdeithas, ac i fynd yn ddwfn i mewn i wreiddiau cymdeithas ac i wreiddiau pobl yn eu cymdeithasau nhw.

"Mae yna onestrwydd yn ei waith e - a dwi'n teimlo i raddau ei fod e wedi dylanwadu ar fy ngwaith i, a'r ffordd dwi'n gweld fy hun fel rhyw fath o hanesydd, fel cofnodydd cymdeithas."

Gyrfa hir

Cafodd Ron Davies yrfa hir a llwyddiannus, gan ddechrau fel ffotograffydd rhyfel yn y Dwyrain Pell.

Bu'n gweithio fel peintiwr gyda'i dad yn Aberaeron wedi iddo adael yr awyrlu ond parhaodd y diddordeb mewn ffotograffiaeth.

Yn y gyfrol "Byd Ron" mae Alistair Crawford yn adrodd hanes y ddamwain beic modur a gafodd Ron Davies wythnos wedi iddo gael ystafell dywyll newydd ar gyfer ymarfer ei grefft.

Treuliodd ddwy flynedd yn yr ysbyty a bu'n sâl am flwyddyn arall wedi iddo ddychwelyd adref.

Ond addaswyd y meinciau yn ei ystafell dywyll a pharhaodd y ffotograffydd â'i waith.

Tynnodd luniau ar gyfer nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys y Western Mail a'r Cymro, a daeth yn adnabyddus am ei ddelweddau o dirluniau a phobl Cymru.

Arddangosfeydd

Cynhaliwyd nifer o addangosfeydd o'i waith, gan gynnwys un yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2002 i nodi ei benblwydd yn 80.

Cyhoeddwyd sawl llyfr o'i ffotograffau - yn ogystal â "Byd Ron" roedd rhain yn cynnwys "Llun A Chân" a "Delweddau o Gymru".

Yn 2003 derbyniodd Ron Davies OBE am ei wasanaeth i ffotograffiaeth a'r flwyddyn flaenorol cafodd ei ddyrchafu i'r wisg wen am ei gyfraniad hir i Orsedd y Beirdd.