Dyn oedd yn dal rhaff yn y dŵr yn cael ei achub
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei achub o'r dŵr ger porthladd Caergybi. Yn ôl gwylwyr y glannau mi welodd rhywun y dyn yn gafael ar raff a chysylltu efo nhw.
Roedd y dyn hefyd yn gweiddi am help.
Mi gafodd ei drin gan barafeddygon a'i anfon i'r ysbyty efo hypothermia. Mi gafodd gwylwyr y glannau wybod am y digwyddiad am 0430 y bore.