Cerddwyr 'wedi gwisgo yn anaddas'
- Cyhoeddwyd
Er gwaethaf rhybudd am dywydd garw, dywed tîm achub mynydd eu bod wedi gorfod achub criw o bobl oddi ar un o fynyddoedd Eryri dros y penwythnos.
Roedd rhai ohonynt wedi gwisgo yn anaddas o ystyried y tywydd ofnadwy, gan gynnwys un dyn oedd mewn pâr o siorts.
Dywed Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn iddynt gael eu galw i'r Cnicht ger Croesor, Porthmadog, nos Sadwrn.
Roedd y criw o dri yn eu 50au ac yn dod o sir Bedfordhire yn Lloegr.
Roeddynt wedi mynd ar goll ger copa mynydd Cnicht, sydd tua 2,269 troedfedd o uchder.
Cafodd 12 o wirfoddolwyr eu galw i helpu gyda'r ymgyrch achub, a barodd bum awr.
"Roedd y dillad oedd ganddynt yn gwbl anaddas o gofio'r rhybuddion am dywydd garw dros y Sul," meddai llefarydd ar ran Tîm Aberglaslyn.
Ychwanegodd: "Yn anffodus, doedd gan y grŵp ddim yr offer cywir ar gyfer y fath amgylchiadau - doedd ganddynt ddim digon o ddillad cynnes na bwyd. Roedd un aelod yn gwisgo pâr o siorts, oedd yn amlwg yn anaddas o ystyried y rhagolygon tywydd."