Rob Samuel yn ennill Marathon Eryri am y trydydd tro
- Cyhoeddwyd

Mae enillydd Marathon Eryri 2013 wedi bod yn disgrifio'r her a wynebodd, wrth iddo geisio gwella o anaf yn yr wythnosau'n arwain at y ras.
Roedd Rob Samuel, 27, wedi cael anaf i linyn y gar ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd yng Ngwlad Pwyl chwe wythnos yn ôl, a phenderfyniad munud ola' oedd cystadlu yn y ras ddydd Sadwrn.
Dyma'r 31ain marathon i gael ei chynnal yn Eryri, a llwyddodd Samuel i gipio ei drydedd buddugoliaeth yn y ras, sy'n cael ei hystyried yn un o'r anodda' yn y gamp.
Wedi'r fuddugoliaeth, dywedodd: "Roedd yn deimlad anhygoel wrth redeg at y llinell derfyn gyda'r Ddraig Goch. Gyda'r holl sydd wedi bod dros y chwe wythnos diwetha', roedd ennill am y trydydd tro'n rhoi llawer mwy o wefr.
'Nerfus'
"O'n i'n nerfus cyn y ras, gan 'mod i wedi anafu ddeufis yn ôl. Ond ro'n i eisiau gwneud yn siŵr bod gen i safle da, a 'mod i'n rhedeg ras gall, yn enwedig yn yr hanner cynta', a gwthio 'mlaen yn yr ail hanner wedyn a gweld beth oedd yn digwydd.
"Ro'n i'n gwybod bod rhaid mi gymryd fy amser ac edrych ar ôl fy nghoesau yn yr hanner cynta'. Nes i orffwys 'chydig yn y milltiroedd cynta' ac asesu'r rhedwyr eraill. Wrth gwrs, ro'n i wastad yn gwybod byddai Gwyn (Owen) yn gryf, ac fe redodd ras wych hyd at tua'r 18fed milltir.
"Dwi'n 'nabod y cwrs, 'dwi'n gwybod sut i'w rasio. Os oeddwn i yn y lle iawn hanner ffordd, ro'n i'n gwybod bod gen i siawns."
Ond ychwanegodd fod ganddo bryderon am ei ffitrwydd cyn y ras.
"Roedd hi'n ras galed," meddai, "yn enwedig yn y tair milltir ola' - roedd fy nghoesau i'n brifo, yn enwedig gan 'mod i ddim wedi gallu rhedeg cymaint yn ddiweddar oherwydd yr anaf. Roedd yn ras llawer anoddach na'r llynedd.
Cwblhaodd y cwrs mewn 2:43:50, sy'n arafach na'r ddwy flynedd ddiwetha'.
Myfyriwr o Brifysgol Bangor, Sarah Caskey, enillodd ras y merched mewn 3:12:07. Roedd diwedd dramatig i'r ras honno, gydag ond 11 eiliad rhwng Caskey a Melanie Staley a ddaeth yn ail.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2013