Agor uned mân anafiadau yn Ysbyty Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Bydd uned mân anafiadau newydd yn cael ei hagor yn Ysbyty Llandudno, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Y nod fyddai mwy o le ar gyfer cleifion a staff, gwell cyfleusterau a mynediad haws i'r safle.

Mae'r uned bresennol ymysg y rhai prysuraf yng Nghymru, yn trin rhyw 17,000 o gleifion y flwyddyn.

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Ionawr 2014.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Bydd yr uned yn gwella gwasanaethau ar gyfer pobl leol yn ogystal â'r nifer mawr o ymwelwyr sy'n dod i'r ardal a bydd yn cael effaith bositif ar y Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru."

1999

Cafodd yr uned bresennol ei hadeiladu yn 1999 a'r nod oedd y byddai ar gyfer cleifion allanol.

Mae disgwyl bydd y gwaith yn dod i ben erbyn Ionawr 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wrth ein boddau bod arian ar gyfer gwella'r uned wedi cael ei gadarnhau.

"Hwn yw'r cam nesaf yn natblygiad yr ysbyty sydd yn ganolbwynt allweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru."