Llofruddiaeth Tondu: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos o flaen Llys yr Ynadon ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 50 oed o ardal Tondu.
Bydd achos James Curtis, 26 oed yn cael ei glywed yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Kevin Hier ei ddarganfod yn ei gartref ddydd Mercher, Hydref 23, a bu farw yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Gofalwr oedd Mr Hier a dywedodd ei deulu ei fod yn "gawr mwyn".
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2013
- 24 Hydref 2013