Iechyd: Cau uned mân ddamweiniau

  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud y bydd uned mân ddamweiniau yn Ysbyty De Penfro yn Noc Penfro yn cau ar Dachwedd 4.

Roedd cau'r uned ynghyd ag uned debyg yn Ninbych-y-pysgod yn rhan o argymhellion y bwrdd ar gyfer ad-drefnu ehangach yn y rhanbarth.

Fe fydd staff yr uned yn cael eu hadleoli i uned frys Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Dywedodd y bwrdd iechyd fod yr uned yn Noc Penfro yn delio gyda nifer fach o achosion a bod y penderfyniad i gau er lles cleifion.

Dywedodd Dr Iain Robertson-Steel, cyfarwyddwr ysbyty Llwynhelyg: "Nid oedd lleoli staff arbenigol yn Ysbyty De Penfro yn gwneud y gorau o sgiliau ein staff.

"Drwy wneud y newidiadau hyn fe allwn ddefnyddio adnoddau prin yn well."

Dywedodd llefarydd y byddai gofal ychwanegol yn yr ardal yn cael ei gynnig gan feddygon teulu a siopau fferyllydd.

Mae tua 3,500 yn mynd i uned mân ddamweiniau Ysbyty De Penfro bob blwyddyn.

"Mae'n amlwg fod y rhan fwyaf sy'n mynd i'r uned yn galw oherwydd anafiadau mân iawn neu salwch y byddai modd i feddyg teulu neu fferyllfa ymdrin â nhw," meddai Dr Robertson-Steel.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol