Gwarant i arestio cyn athrawes
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â gwaith Ms Ceiriog gyda Theatr Twm o'r Nant
Mae llys wedi cyhoeddi gwarant ar gyfer arestio cyn bennaeth cynorthwyol Ysgol Uwchradd Dinbych.
Roedd Gwawr Ceiriog, 50 oed, i fod gerbron Ynadon Prestatyn ddydd Llun i wynebu cyhuddiad o dwyll.
Honnwyd iddi gadw arian oedd i fod i gael ei roi i Theatr Twm o'r Nant.
Dyw'r cyhuddiad ddim yn ymwneud â'i gwaith yn yr ysgol.
Ms Ceiriog, o Faes y Goron, Dinbych, oedd cyn bennaeth yr adran ddrama yn Ysgol Uwchradd Dinbych.