51% wedi dioddef oherwydd cythraul gyrru
- Cyhoeddwyd

Mae dros hanner o yrwyr yng Nghymru wedi dioddef oherwydd cythraul gyrru (road rage), yn ôl arolwg newydd.
Dywedodd 51% o'r 750 o bobl gafodd eu holi ar gyfer rhaglen Week In Week Out y BBC, eu bod nhw wedi profi ymddygiad digywilydd neu ymosodol gan yrwyr eraill.
Ym mis Awst cafodd pwerau newydd eu rhoi i heddluoedd i roi cosb o £100 i rheiny sy'n gwrthod symud o'r lôn ganol, neu yn gyrru yn rhy agos i geir eraill. Ond nid yw heddluoedd Cymru wedi cosbi unrhyw un eto.
Mae Comisiynydd Heddlu De Cymru wedi dweud y bydd hi'n cymryd amser i ddod a'r cosbau newydd i rym.
Bygwth
Un sydd wedi profi ymddygiad o'r fath yw Matt Turner, myfyriwr coleg o Brestatyn, gafodd ei fygwth gan yrrwr car wrth seiclo.
Roedd Mr Turner wedi herio un gyrrwr am iddo dorri ar draws cornel, yna daeth y gyrrwr ar ei ôl.
"Aeth o fy mlaen i cyn brecio yn sydyn," meddai.
"Pan ddaeth allan o'r car tuag atai, roeddwn i'n meddwl ei fod am fy nharo."
Roedd y gyrrwr wedi rhegi at Mr Turner, a'i fygwth.
Cafodd y digwyddiad ei recordio ar gamera personol Mr Turner, a chafodd y gyrrwr rybudd gan yr heddlu.
Ond nid yw Mr Turner yn teimlo bod y gyrrwr wedi dangos unrhyw edifeirwch.
"Dydw i ddim yn teimlo ei fod yn difaru'r hyn wnaeth o, ond ei fod wedi cael ei ddal."
Cosb newydd
Cafodd cosbau newydd eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU i roi dirwy o £100 i rheiny sy'n gyrru yn rhy agos i eraill neu yn gwrthod symud o'r lôn ganol - pethau sy'n gallu arwain at yrru yn gandryll.
Hyd yn hyn nid yw heddluoedd Cymru wedi rhoi'r ddirwy newydd am yrru heb ofal.
Mae 'na bryder bod y ddirwy newydd wedi eu cyflwyno yn rhy sydyn, a heb ddigon o adnoddau.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael: "Nid yw'n bosib cael y math yma o orchymyn a disgwyl i'r heddlu ei ddefnyddio bob dau funud.
"Mae'n un peth cael syniad da - ac rydw i'n cefnogi'r syniad. Mae'r llywodraeth yn gywir i alluogi i ni ymyrryd ond nid ydynt yn ystyried y gost o wneud hynny."
Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn cydnabod bod heddluoedd wedi gorfod delio gyda thoriadau, a'u bod eisiau i heddluoedd "geisio dod o hyd i ffyrdd o herio a gwella ei hunain".
Bydd Week In Week Out yn cael ei ddangos Ddydd Mawrth, Hydref 29 am 10.35 ar BBC 1.
Straeon perthnasol
- 4 Ebrill 2011