Pum cyngor yn cadw golwg ar weithwyr

  • Cyhoeddwyd
Kim Shaw
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Kim Shaw ei bod hi wedi teimlo dan fygythiad

Mae o leiaf pum awdurdod lleol yng Nghymru wedi bod yn cadw golwg yn ddirgel ar eu gweithwyr.

Dywedodd cynghorau Gwynedd, Caerdydd, Pen-y-bont a Sir Ddinbych eu bod wedi defnyddio technegau gwyliadwriaeth mewn "amgylchiadau eithriadol" fel achosion o dwyll.

Dywedodd Cyngor Caerffili hefyd eu bod wedi cadw golwg ar weithwyr, ond bod y broses wedi ei stopio ers mis Ebrill.

Un gafodd ei dilyn gan Gyngor Caerffili oedd Kim Shaw, sy'n dweud ei bod wedi teimlo dan fygythiad.

Gwyliadwraeth

Mae'r hawl i gadw golwg dan y Ddeddf Pwerau Ymchwilio yn galluogi i gynghorau ddarllen neu wrando ar gyfathrebiadau unigolion neu ddefnyddio technegau gwyliadwriaeth.

Dywedodd y pum cyngor eu bod wedi defnyddio'r pwerau yn y gorffennol, tra bod Cyngor Conwy yn fodlon ystyried eu defnyddio yn y dyfodol.

Ni chafodd BBC Cymru ymateb gan gynghorau Sir Gar, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.

Mae Ms Shaw yn teimlo fod bod dan wyliadwriaeth wedi creu nifer o emosiynau.

"Ofn bod rhywun wedi bod yn fy nilyn, ac yna anghrediniaeth wrth weld y manylion personol yn yr adroddiad, hyd yn oed at ba 'sgidiau oeddwn i'n eu gwisgo," meddai.

"Mae meddwl am y swyddogion yma yn nodi'r ffordd roeddwn i'n cerdded, beth oeddwn i'n ei ddweud a lle'r oeddwn i'n mynd, mae'n teimlo'n fygythiol iawn, ac yn ymyrraeth ar breifatrwydd."

Camerâu

Dywedodd Ms Shaw bod yr adroddiad yn dangos bod camerâu wedi bod y tu allan i'w chartref o 7 o'r gloch y bore, a'u bod nhw wedi ei dilyn ar ddwy achos.

"Beth alla i fod wedi ei wneud i gael fy nhrin fel troseddwr?"

Mae Nick Pickles o'r ymgyrch breifatrwydd Big Brother Watch yn dweud bod angen monitro'r pwerau sydd gan awdurdodau i gadw golwg ar bobl.

"Mae cynghorau, fel nifer o awdurdodau cyhoeddus a'r heddlu wedi eu rheoli gan y Ddeddf Pwerau Ymchwilio.

"Cafodd y ddeddf ei newid y llynedd i olygu bod angen i gynghorau gael gwarant gan Ynadon cyn defnyddio'r pwerau.

"Ond, hyd yn oed hefo'r mesur yma mewn grym, efallai na ddylai cynghorau gael y pwerau yma o gwbl, ac os oes trosedd ddifrifol yn digwydd yna dylai'r heddlu fod yn ymchwilio nid yr awdurdod lleol."