Beirniadu adroddiad ar ddyfodol yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Mae Cadeirydd Sioe Frenhinol Cymru wedi beirniadu adroddiad gan dasglu ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn siarad gyda rhaglen y Byd ar Bedwar ar S4C, mae John Davies wedi dweud bod yr adroddiad yn "feddal a digyfeiriad", ac nad oes unrhyw beth newydd ynddo.
Yr wythnos ddiwethaf cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi, gan argymell y dylai'r ŵyl barhau i deithio a derbyn mwy o arian cyhoeddus.
Mae un aelod o'r tasglu oedd yn gyfrifol am ffurfio'r argymhellion, Aran Jones, wedi amddiffyn yr adroddiad a gwadu ei fod yn feddal ac aneglur.
Argymhellion
Daeth yr adroddiad i'r casgliad y dylai'r ŵyl barhau i deithio yn flynyddol, y dylid cyflogi cyfarwyddwr artistig a bod angen gwario mwy o arian.
Ond mae John Davies yn credu nad yw'r argymhellion yn ddigonol.
"Gyda phob parch i'r gweithgor, dwi ddim yn credu ei fod yn dweud llawer, mae 'na rywbeth yn feddal iawn ynddo, does dim neges glir o gyfeiriad.
"Mae bron yn dweud mae'n fusnes fel arfer hefo rhai newidiadau bychain."
Cost cynnal yr eisteddfod yw £3.4 miliwn bob blwyddyn, ond mae'r gweithgor wedi argymell mwy o wariant.
"O le mae'r arian yna yn dod?" meddai John Davies.
"Lle ydych chi'n dweud y dylwn ni wario llai ar yr iaith Gymraeg a'r gwasanaeth sydd mor bwysig i bobl Cymru?"
Canfyddiadau
Yn ymateb mae un aelod o'r gweithgor wedi amddiffyn yr adroddiad.
"Dwi'n gweld y gair meddal yn ddiddorol," meddai Aran Jones ar raglen Newyddion 9.
"Mae'r cwestiwn a ddylai'r Eisteddfod barhau i deithio wedi bod yn rhygnu ymlaen am flynyddoedd, a rŵan ar ôl blwyddyn o dystiolaeth eang iawn, 'da ni wedi cyrraedd canfyddiad ei bod hi'n hanfodol bwysig i'r wyl dal i deithio, a dwi ddim yn gweld unrhyw beth aneglur na meddal am hynny."
"Y peth sy'n hanfodol bwysig, ac sydd heb gael unrhyw sylw hyd yma yw'r ochr marchnata.
"Un peth ddaeth yn hollol amlwg i ni oedd nad oedd yr Eisteddfod hefo'r adnoddau oedd eu hangen i gasglu'r data oedd ei angen i'w farchnata yn iawn."
Straeon perthnasol
- 24 Hydref 2013