Tân mewn ysgubor dan reolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân wedi dweud bod tân mewn ysgubor ger Llandysul bron ar ben.
Roedd y tân ym Mhencader wedi bod yn llosgi am dros 13 awr.
Cafodd timau o Landysul, Castell Newydd Emlyn a Chaerfyrddin eu galw i'r safle tua 10 o'r gloch nos Lun.
Mae 'na dri o griwiau ar y safle ond maen nhw wedi llwyddo i'w reoli.
Roedd anifeiliaid yn yr ysgubor pan ddechreuodd y tân ond cawson nhw eu hachub.