Gyrrwr yn teithio i'r cyfeiriad anghywir ar yr M4
- Cyhoeddwyd

Cafodd y fan ei gweld ar yr M4 fore Mawrth
Mae gyrrwr fan wedi ei weld yn gyrru am gyfnod i'r cyfeiriad anghywir ar yr M4.
Cafodd Heddlu Gwent alwad ffôn am 6.40 fore Mawrth yn dweud bod y fan, oedd wedi ei chofrestru dramor, wedi ei gweld yn gyrru tua'r gorllewin o Gyffordd Y Coldra.
Aelod o'r cyhoedd oedd wedi rhoi gwybod i'r heddlu.
Aeth plismyn i chwilio am y fan ond ni ddaethon nhw o hyd iddi.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol