Gareth Bale ar restr fer gwobr Ballon d'Or
- Cyhoeddwyd

Mae'r pêl-droediwr Gareth Bale wedi ei enwebu ar gyfer gwobr chwaraewr gorau'r byd.
Y Cymro 24 oed sy' ymhlith enwau mawr eraill fel Lionel Messi a Cristiano Ronaldo ar restr gwobr FIFA, y Ballon d'Or.
Cafodd 23 o enwau eu dewis ac mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ionawr 13 yn Zurich.
Does dim chwaraewyr o Loegr, Gogledd Iwerddon na'r Alban ar y rhestr fer.
Bale yw'r chwaraewyr drutaf yn y byd ar ôl iddo symud o Tottenham i Real Madrid ym mis Medi am swm o 100 miliwn ewro.
Chwaraewr Barcelona a'r Ariannin Lionel Messi sydd wedi ennill y wobr am bedair blynedd yn olynol.
Ond mae nifer yn dweud bod cyd-chwaraewr Bale ym Madrid, Cristiano Ronaldo yn ffefryn eleni.
Enw arall allai gipio'r wobr eleni ydy Franck Ribery, chwaraewr gorau Ewrop UEFA yn 2012-13.
Mae cyn-hyfforddwr Manchester United, Syr Alex Ferguson wedi ei enwebu ar gyfer hyfforddwr y flwyddyn.
Y rhestr lawn o'r chwaraewyr sydd ar y rhestr fer yw:
1. Gareth Bale
2. Edinson Cavani
3. Radamel Falcao
4. Eden Hazard
5. Zlatan Ibrahimovic
6. Andres Iniesta
7. Philipp Lahm
8. Robert Lewandowski
9. Lionel Messi
10. Thomas Muller
11. Manuel Neuer
12. Neymar
13. Mesut Özil
14. Andrea Pirlo
15. Franck Ribery
16. Arjen Robben
17. Cristiano Ronaldo
18. Bastian Schweinsteiger
19. Luis Suarez
20. Thiago Silva
21. Yaya Toure
22. Robin van Persie
23. Xavi
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd15 Medi 2013
- Cyhoeddwyd2 Medi 2013