Gwrthod uno dwy ysgol ffydd yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Ni fydd dwy ysgol ffydd yn Sir Ddinbych yn uno wedi i gynghorwyr bleidleisio yn erbyn y cynllun.
Roedd cannoedd o bobl yn erbyn cynlluniau i gau Ysgol y Santes Ffraid yn Ninbych ac Ysgol Bendigaid Edward Jones yn y Rhyl a chreu un ysgol aml-ffydd yn eu lle.
Ddydd Mawrth penderfynodd cynghorwyr gydweithio gyda'r esgobaeth Gatholig ac Anglicanaidd i ddatblygu ysgol newydd ar safle sydd heb ei benderfynu.
Fe fyddai'r cynllun hwnnw yn golygu cau'r ddwy ysgol bresennol erbyn 2018 a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal.
Roedd 1300 wedi ymateb i'r cynlluniau cyntaf ond ychydig iawn oedd o blaid.
Ymateb
Yn ymateb dywedodd un rhiant ac aelod o Grŵp Weithredu Ysgol y Santes Ffraid, Lisa Carrier: "Mae'r rhieni a'r disgyblion yn ysgolion y Santes Ffraid a'r Bendigaid Edward Jones wedi gwrthod y cynllun i uno ac rydym yn falch bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gwrando.
"Rydym nawr yn gofyn i'r cyngor edrych ar yr ymateb i'r ymgynghoriad yn fanwl ac ystyried y dystiolaeth, cynlluniau a'r esiamplau gafodd eu cyflwyno, sy'n rhoi cynllun amgen ymarferol i'r uno drud sy'n ymddangos yn amhoblogaidd iawn."
Mae cadeirydd llywodraethwyr Ysgol y Santes Ffraid hefyd wedi croesawu'r newyddion.
"Mae cyfnod yr ymgynghoriad wedi bod yn un anodd iawn i'r ysgol ac yn ddryswch i bawb sydd wedi cysylltu â'r ysgol," meddai Tony Hannigan.
"Rydym yn falch y gallwn ni ganolbwyntio ar addysg ein disgyblion unwaith eto, o leiaf am y dyfodol agos.
"Mae'r canlyniad wedi ein hannog i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i ddod i ddatrysiad fydd yn elwa holl ddisgyblion y sir ac mae'r ysgol yn edrych ymlaen at gyfrannu i'r rhan nesaf o'r broses ymgynghori."
100 o brotestwyr
Daeth tua 100 o brotestwyr i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynlluniau i gau'r ysgolion ffydd ac ysgol gynradd gyfagos, Ysgol Llanbedr.
Penderfynodd y cyngor barhau gydag ymgynghoriad ffurfiol ar gau Ysgol Llanbedr.
Dim ond 21 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol ac mae'r ymgynghoriad yn rhan o adolygiad i addysg yn ardal Rhuthun.
Mae rhieni ac athrawon wedi gwrthwynebu'r penderfyniad, ond os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd yr ysgol yn cau yn 2014 a disgyblion yn symud i Ysgol Borthyn yn Rhuthun.
Straeon perthnasol
- 20 Tachwedd 2012
- 23 Ionawr 2012