Chwilio am fargyfreithiwr ar goll
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gianni Sonvico ei weld am y tro diwethaf nos Gwener
Mae Heddlu Llundain yn chwilio am fargyfreithiwr 23 oed o Gymru sydd ar goll ers Hydref 25.
Yn wreiddiol, roedd Gianni Sonvico o Wdig yn Sir Benfro ond mae'n byw yn Islington.
Fe aeth i Ysgol y Preseli yng Nghrymych.
Fe gafodd ei weld am 11.00yh ddydd Gwener yn Tower Hill yn Llundain ac roedd yn gwisgo siwt ddu a chrys porffor.
Mae'n gweithio i Gomisiwn y Gyfraith yn Llundain.
Mae cyn-bennaeth Ysgol y Preseli, Martin Lloyd, wedi dweud ei fod yn ddisgybl "disglair a hoffus tu hwnt".
Dywedodd yr heddlu: "Mae ei ddiflaniad yn hollol annodweddiadol."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio ditectifs ar 07766 781 861 neu 101 neu Pobl ar Goll ar 116 000.