Agor canolfan ar gost o £850,000 yn Llanilltud Fawr

  • Cyhoeddwyd
Capel Galilea yn Llanilltud FawrFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ganolfan yn sôn am gyfraniad yr eglwys wrth ddatblygu Cristnogaeth yng Nghymru

Mae canolfan ymwelwyr newydd yn cael ei hagor mewn capel sy'n 800 o flynyddoedd oed.

Capel Galilea yn Eglwys Illtud Sant yn Llanilltud Fawr sy' wedi derbyn £850,000 o arian loteri.

Ynddi mae croesau Celtaidd sy'n fwy na 1,000 o flynyddoedd oed.

Mae'r ganolfan yn cael ei hagor am hanner dydd ddydd Sadwrn.

'Arddangos'

Dywedodd Huw Butler, Rheithor Llanilltud Fawr: "Am y tro cynta' bydd y croesau'n cael eu harddangos yn iawn ...

"Bydd ymwelwyr yn gallu eu gweld o bob cyfieiriad."

Roedd y capel yn adfail ac yn dyddio'n ôl i'r 13eg ganrif.

Yn y ganolfan mae ystafell archif, toiledau, ac ystafelloedd cyfarfod a'r bwriad yw denu twristiaid, ysgolion a grwpiau cymunedol.

Ar ôl y seremoni bydd band pres yn perfformio, arddangosfa'n cael ei chynnal a chyngerdd am 7yh.

500 OC

Cafodd man addoli ei sefydlu yn Llanilltud Fawr yn y flwyddyn 500 gan gynnwys ysgol sy'n cael ei chydnabod fel un o ganolfannau dysgu Cristnogol cynharaf Prydain.

Mae cysylltiadau cryf rhwng yr eglwys ac Ynys Bŷr, Tyddewi, Llancarfan a Llandaf.

Mae unigolion, grwpiau lleol, gan gynnwys y gymdeithas hanes, a Chanolfan Crefydd mewn Astudiaethau Celtaidd Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cefnogi'r prosiect.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol