Apêl i achub adeiladau Cwmorthin

  • Cyhoeddwyd
Tai Llyn
Disgrifiad o’r llun,
Mae cymdeithas Cofio Cwmorthin ac Antur Stiniog yn gweithio efo'i gilydd er mwyn ceisio achub Tai Llyn yng Nghwmorthin.
Tai Llyn 2
Disgrifiad o’r llun,
Maen nhw'n awyddus i gapio'r waliau er mwyn atal rhagor o niwed iddynt - dim ond un simdda sy'n sefyll bellach. Maen nhw'n gobeithio codi £4,800 erbyn diwedd y flwyddyn.
Disgrifiad o’r llun,
Mae nifer o adeiladau diddorol eraill i'w gweld yng Nghwmorthin fel y tŷ fferm yma sydd i'w weld yng ngogledd y cwm. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladau oddeutu 1700 ond mae pobl yn byw yno ers 1200 yn ôl traddodiad lleol.
Disgrifiad o’r llun,
Adeiladwyd Teras Rhosydd yn y 1860au ac roedd pobl yn byw yna tan y 1930au pan symudodd y teulu olaf i Blas Cwmorthin. Roedd cyfanswm o 42 o bobl yn byw yn y pum tŷ ar un adeg.
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y stablau hyn eu hadeiladu yn yr 1860au gan Chwarel Rhosydd er mwyn rhoi llety i'r ceffylau oedd yn cario llechi drwy Gwmorthin. Roeddent hefyd yn cael eu defnyddio fel llety gan y gweithwyr ar adegau.
Disgrifiad o’r llun,
Adeiladwyd Capel Tiberias fel man addoli i annibynwyr. Cafodd ei orffen yn 1866 ond nid yw'n wybodus pryd y cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ynddo.
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Plas Cwmorthin ei adeiladu ar gyfer rheolwr Chwarel Rhosydd. Y Teulu Williams oedd yw olaf i fyw ynddo a nhw oedd yr olaf i fyw yng Nghwmorthin hefyd.
Disgrifiad o’r llun,
Man addoli ar gyfer y Calfiniaid Methodistaidd oedd Capel y Gorlan.
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ceri Cunnington o Antur Stiniog yn dweud ei bod hi'n bwysig cadw Cwmorthin ar gyfer y cenhedloedd nesaf: "I bobl 'Stiniog mae'r lle yn anhygoel - mae'n le ysbrydol sydd wedi ysbrydoli beirdd a chantorion ac mae'n siom ei weld o'n dirywio. Mae'n anodd rhoi eich bys ar hud y lle - rydych yn gorfod bod yna i deimlo fo. Ro'n i’n arfer mynd yno i chwara' pan yn blant a'i sgota ac mae hanes y lle mor gyfoethog byddai'n bechod os na fydd pobl ifanc yn cael cyfle i gael balchder yn yr holl stori Blaena'."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol