Triniaeth niwrolegol: Gofyn barn

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mark Drakeford eisiau clywed barn pobl am yr hyn mae'n gynnig

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nodi'r hyn maen nhw'n disgwyl gan wasanaethau sy'n gofalu am bobl sydd â chyflwr niwrolegol.

Y nod fyddai ceisio sicrhau bod pobl yn llwyddo i fyw yn annibynnol gyda'u cyflwr.

Bydd cyfle i bobl ddweud eu dweud ynghylch y cynigion - sydd i'w gweld yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol - dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif bod dros hanner miliwn o bobl yn cael eu heffeithio gan gyflwr niwrolegol yng Nghymru.

Profiad claf

Un o'r rheiny yw Sian Griffiths o ardal Abertawe, gafodd ddiagnosis o glefyd Parkinson's chwe blynedd yn ôl.

"Cyn y diagnosis roeddwn yn byw bywyd prysur a llawn iawn, yn ymarfer bob dydd ar gyfer rhedeg marathon, sgïo, beicio," meddai, "mae'r rhestr yn ddiderfyn."

"Ond yna cafodd fy myd ei droi ar ei ben pan glywais fod gen i'r clefyd, ac i ddefnyddio geiriau fy ngŵr fe wnaeth 'ddwyn fy mywyd'.

"Roedd fy ngŵr yn edrych arna i yn cerdded lawr yr ardd un diwrnod a dywedodd mae rhywbeth yn bod ar eich gait chi. Felly o 'ny es i gal appointment gyda'r doctor i weld ac yna consultant...

"O'n i'n meddwl bod rhywbeth yn waeth yn bod arna i, tiwmor neu rhywbeth, pan ddywedodd nhw mai Parkinson's oedd e roeddwn i'n gwenu a'r consultant a'n ngwr yn sbïo arna i fel mod i'n dwp, ond y ffordd fi'n dishgwl arno fe yw chi'n medru byw gyda Parkinson's..."

"Ond fe wnes i ffindo'n hunan mewn sefyllfa nad oeddwn yn gallu neud dim, eistedd ar gadair codi cyllell a fforc i fwyta bwyd - sioc ofnadŵ."

'Dechrau o'r dechrau'

Cafodd Ms Griffiths ei chyfeirio i Ysbyty Gorseinon sydd ag uned arbenigol ar gyfer trin pobl sydd â chlefyd Parkinson's.

Er ei bod hi'n canmol y driniaeth wnaeth hi dderbyn yno, dywedodd bod rhai agweddau oedd ddim i'w gweld yn rhesymol iddi hi.

"Yn anffodus roedd y ddarpariaeth ffisiotherapi ond ar gael am uchafswm o bythefnos, ond gan fy mod i yn berson gweddol ffit i ddechrau doedd hynny ddim yn ddigon ar fy nghyfer.

"Wedi'r 12 wythnos mae'n rhaid i chi ddisgwyl cyn cael bloc arall wedi ei roi i chi - dyw e ddim i weld yn gost effeithiol i mi i roi 12 wythnos i rywun, i stopio, ac yna rhoi 12 wythnos arall mewn chwe mis.

"Efallai erbyn hynny y byddech chi nôl yn y man cychwyn a bydd rhaid dechrau o'r dechrau."

Mae Ms Griffiths bellach yn derbyn triniaeth yn breifat ac yn hapus gyda'r gofal mae wedi ei dderbyn ond mae'n pwysleisio bod y driniaeth mae pobl ei angen yn dibynnu ar eu cyflwr.

Dywedodd: "Rwy'n cael dwy awr o ffisio bob wythnos - mae'n hanfodol bod ffisios niwrolegol yn arbenigo a bod triniaeth yn cael ei deilwra i anghenion y claf achos one size does not fit all yn fy marn i.

"Rwy'n credu o'r sefyllfa rwyf fi a fy ngŵr - sydd a MS - mo'yn gweld yw uned arbenigol i bob math o afiechyd gydag ymgynghorwyr a nyrsys arbenigol a ffisios i gyd yn gweithio 'da'i gilydd a bod mynediad i'r llefydd hyn yn rhwydd i bawb sydd eisiau nhw."

'Gwasanaeth o ansawdd uchel'

Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad, dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei fod eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sydd â chyflyrau niwrolegol yn derbyn triniaeth addas.

"Rydyn ni am wneud yn siŵr fod gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel ar gael i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan unrhyw fath o gyflwr niwrolegol fel y gallant fyw gyda'u cyflwr," meddai.

"Dylai hyn ddigwydd ble bynnag maen nhw'n byw, ac os yw'r gwasanaethau'n cael eu darparu drwy ysbytai neu yn y gymuned.

"Rwy'n credu'n gryf y gallwn, drwy osod y fframwaith hwn o ddisgwyliadau, gyflawni gofal o ansawdd uchel a gwell canlyniadau i bobl sy'n dioddef o bob math o gyflyrau niwrolegol."

Dywedodd David Sissling, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru:

"Mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio ar lawer o bobl yng Nghymru. Gall y cyflyrau hyn gael effaith ddifrifol a pharhaol ar fywydau unigolion a'u teuluoedd. Mae'n hanfodol bod y GIG yn ymateb yn brydlon ac yn effeithiol.

"Bydd y Cynllun Cyflawni hwn yn rhoi'r arweiniad angenrheidiol ac yn egluro'r safonau sydd eu hangen. Rhaid i ni ddarparu gofal rhagorol - boed hynny drwy ddiagnosis prydlon, triniaeth briodol neu gymorth parhaus.

"Ni all y GIG wneud hyn ar ei ben ei hun. Rhaid iddo weithio gyda sefydliadau partner yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol. Drwy ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau byddwn yn gallu sicrhau'r gwelliannau rydyn ni i gyd am eu gweld."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol