'Amser i Ffederasiwn yr Heddlu newid'

  • Cyhoeddwyd
Steve Williams
Disgrifiad o’r llun,
Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, y Cymro Steve Williams, wnaeth gomisiynu'r adolygiad

Mae'r rhan fwyaf o blismyn yn credu bod angen i'r corff sy'n eu cynrychioli newid, yn ôl adroddiad annibynnol.

Yn ôl awduron yr adroddiad mae teimlad o fewn yr heddlu bod Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr wedi "colli ei ffordd".

Mae plismyn hefyd yn anhapus gan eu bod yn teimlo nad yw'r sefydliad yn edrych ar ôl eu buddiannau ddigon da.

Dywedodd y ffederasiwn bod y canfyddiadau yn "peri pryder".

Adolygiad

Mae adolygiad o'r ffederasiwn yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd adroddiad terfynol yn cael ei ryddhau ym mis Ionawr 2014.

Panel o arbenigwyr sy'n gyfrifol am yr ymchwil ac mae'n cael ei gadeirio gan Sir David Normington, cyn ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Gartref.

Maen nhw'n ystyried os yw'r ffederasiwn yn rhoi llais digonol i swyddogion ac os yw'n gwasanaethu budd y cyhoedd.

O'r 127,226 o aelodau mae 6,810 yn gweithio yng Nghymru.

Mae'r adroddiad cynnydd gafodd ei gyhoeddi'r wythnos yma yn dweud am y ffederasiwn fod ei "ddylanwad a'r effaith ar y cyhoedd ac ar bolisi wedi dirywio ar adeg pan mae gwasanaethau'r heddlu yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol".

'Colli hyder'

Ychwanegai'r adroddiad: "Mae'n rhaid iddo newid yn sylfaenol. Fel arall mae'n wynebu bod yn amherthnasol neu gael ei newid o'r tu allan."

Mewn ymateb i'r canfyddiadau diweddaraf, dywedodd Ffederasiwn yr Heddlu ei fod yn cydnabod bod angen newid.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Yn amlwg mae'r canfyddiadau cychwynnol yn peri pryder ac yn codi nifer o faterion i'w hystyried a'i trafod o fewn y sefydliad.

"Ond mae'n rhaid i ni gofio mai cadeirydd newydd Ffederasiwn yr Heddlu Steve Williams ofynodd am adolygiad annibynnol pan ddechreuodd yn y swydd fis Ionawr, oherwydd pryderon oedd wedi cael eu codi am y ffederasiwn a rhai o'i arferion gwaith.

"Roedd yn bwysig ein bod ni'n deall sut roedd hyn yn effeithio ar y ffederasiwn a sut y gallwn ni newid y sefydliad er mwyn sicrhau ein bod ni'n addas at y diben wrth symud ymlaen.

"Fel mae'r adroddiad cynnydd yn amlygu mae'r ffederasiwn yn sefydliad sydd angen newid."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol