Ymosod difrifol yng Nghaerdydd: Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddyn 21 oed gael anafiadau difrifol i'w ben yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Cafodd dyn 40 oed ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae'r dioddefwr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd y ditectif arolygydd Julian Bull: "Digwyddodd yr ymosodiad ar Ffordd y Brenin ger Banc Lloyds tua 12:40am ddydd Sul Hydref 27.
"Roedd llawer o bobl yn yr ardal ar y pryd ac rydym yn gofyn iddyn nhw gysylltu gyda ni."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 02920 527420 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol