Cleverly yn dychwelyd yn drymach
- Cyhoeddwyd

Mae'r bocsiwr Nathan Cleverly wedi cyhoeddi y bydd yn newid ei bwysau wrth ddychwelyd i'r sgwâr ddiwedd mis Tachwedd.
Collodd Cleverly ei deitl fel pencampwr is-drwm y byd yn erbyn Sergey Kovalev ym mis Awst.
Bydd yn dychwelyd fel bocsiwr gordrwm (cruiserweight) wrth iddo wynebu Daniel Ammann ar gyfer pencampwriaeth y Gymanwlad ar Dachwedd 30.
Bu sibrydion y byddai Cleverly yn ymddeol o'r gamp yn llwyr ar ôl colli i Kovalev, ond dywedodd:
"Rwy'n barod i ddychwelyd a fedra i ddim disgwyl tan Dachwedd 30 i ddangos bod Nathan Cleverly yn ei ôl.
"Mae gen i'r awch unwaith eto ac rwyf am fod yn bencampwr byd eto.
"Dydw i ddim am adael fy nghefnogwyr i lawr - y rhai sydd wedi fy nghefnogi gydol fy ngyrfa - gadael fy nheulu i lawr ac yn bwysicach gadael fy hun i lawr drwy orffen ar ôl colli.
"Mae meddwl am ennill ail bencampwriaeth byd yn fy nghyffroi."
Mae Ammann wedi ennill 29 o'i 35 gornest broffesiynol ac ef yw pencampwr Awstralia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2013