Staff prifysgolion yn streicio
- Cyhoeddwyd

Mae staff mewn prifysgolion yng Nghymru yn streicio ddydd Iau am nad ydyn nhw'n hapus efo'u cyflogau.
Yn ôl yr undebau mae'r gweithwyr wedi cael cynnig codiad cyflog o 1% y flwyddyn yma. Maen nhw'n dweud bod hynny yn golygu y bydd eu cyflogau wedi gostwng 13% mewn termau real ers Hydref 2008.
Aelodau Unsain, Unite a'r undeb sydd yn cynrychioli prifysgolion a cholegau sef yr UCU sydd yn streicio ac mae'r gweithredu yn digwydd yng Nghymru a Lloegr.
Cynhaliodd y tri undeb bleidlais gudd rhwng eu haelodau gyda mwy na 60% o aelodau Unite a'r UCU yn pleidleisio o blaid streicio.
Mae'r sefydliad sy'n cynrychioli'r cyflogwyr - yr UCEA - yn dweud bod y cynnig yn un da ar gyfer staff.
Ddydd Mawrth roedd yr undebau yn dweud eu bod wedi ceisio cynnal trafodaethau efo'r cyflogwyr er mwyn osgoi'r diwrnod o weithredu.
Ond dydy'r ddwy ochr heb lwyddo i ddod i gytundeb.
Bwyd neu wres
Yn ôl y dyn sydd yn arwain ar addysg uwch o fewn undeb Unsain Cymru, Simon Dunn does ganddyn nhw ddim dewis arall: "Y cam olaf ydy gweithredu diwydiannol ond mae ein haelodau ni yn teimlo nad oes 'na opsiynau eraill ganddyn nhw erbyn hyn.
"Dyw rhai o'n haelodau ni sydd yn gweithio yn y sector addysg uwch ddim hyd yn oed yn ennill cyflog byw ac mae mwyafrif wedi profi gostyngiad yn eu cyflogau o bron i 15%. Mae hynny yn bownd o gael effaith ofnadwy ar fywydau pobl.
"Mae pobl yncael trafferth ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Ydyn nhw'n talu i fwydo eu hunain a'u teuluoedd neu ydyn nhw yn talu i wresogi eu tai'r gaeaf yma? Mae pethau mor wael â hynny."
Mae'r undebau yn dweud mai hon fydd y streic gyntaf i ddigwydd ar yr un pryd gan y tri undeb.
Maent yn dadlau bod y sefyllfa yn annheg am fod cyflogau penaethiaid wedi codi ac yn dweud ar gyfartaledd bod is-ganghellor yn 2011-12 wedi derbyn pecyn cyflog a phensiwn gwerth £250,000.
Cynnig hael
Siomedig nad yw'r codiad wedi ei dderbyn mae'r mudiad sydd yn cynrychioli prifysgolion fel cyflogwyr. Maen nhw yn dweud mewn realiti bod y cynnig yn golygu codiad o 3% i nifer o staff mewn sefydliadau ac y byddai nifer o'r tu allan yn gweld y cynnig fel un hael.
Dywed y mudiad hefyd eu bod nhw wedi cynnal nifer o drafodaethau efo'r undebau dros gyfnod o chwe mis a hyd yn oed wythnos ddiwethaf er mwyn ceisio dod i gytundeb.
Mae'r undebau yn dweud y bydd rhai dosbarthiadau yn cael eu canslo ac y bydd bob prifysgol yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y streic.
Ond dyw'r UCEA ddim yn darogan hynny gan ddweud na fydd y gweithredu yn cael effaith fawr ar fyfyrwyr yn ystod y diwrnod: "Mae unrhyw weithredu diwydiannol yn amlwg yn siomedig.
"Gyda llai na 5% o'r staff wedi pleidleisio i gefnogi'r streic yma, mae'r sefydliadau yn dweud wrthym ni fod mwyafrif y gweithwyr yn deall realiti'r sefyllfa bresennol ac nad ydyn nhw eisiau amharu ar waith y sefydliadau yn enwedig addysg y myfyrwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2011