HS2: Anelu at 'gyfran deg o arian'?

  • Cyhoeddwyd
HS2
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian HS2 ar gyfer 2015-16

Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod am geisio sicrhau "cyfran deg o arian i Gymru" yn sgil prosiect HS2, cynllun y trên cyflym rhwng Llundain a gogledd Loegr.

Roedden nhw'n bwriadu cyflwyno gwelliannau i'r mesur sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer adeiladu'r rheilffordd.

Os byddai'r gwelliannau wedi cael eu derbyn roedden nhw'n gobeithio y byddai hyn yn golygu bod Cymru'n derbyn hyd at £4 biliwn yn ystod y prosiect.

Mae'r Trysorlys wedi dweud y bydd penderfyniad am arian HS2 maes o law.

'Tair blynedd'

Dywedodd llefarydd y blaid ar y Drysorlys, Jonathan Edwards AS: "Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tair blynedd i sicrhau bod Cymru'n cael cyfran deg o arian HS2 .

"Dros yr haf mae cost y rhwydwaith wedi dyblu i dros £40 biliwnn, yn ôl amcangyfrifon y Trysorlys.

"Mae asesiadau annibynnol y Sefydliad Materion Economaidd yn rhoi'r gost dros £80bn.

"Byddai cyfran deg i Gymru felly rhwng £3bn a £4bn.

"Heb os, bydd y gost yn codi eto dros y blynyddoedd nesaf. Bydd gwariant ar HS2 yn dominyddu pob buddsoddiad trafnidiaeth am genhedlaeth.

"Bydd HS2 yn costio rhwng £1,700 a £3,000 i bob unigolyn yng Nghymru ar sail yr amcangyfrif diweddaraf.

"Unwaith eto dim ond Plaid Cymru sy'n gwarchod buddiannau cenedlaethol Cymru."

Gwadu

Daeth hi'n amlwg yn ddiweddar bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian ychwanegol yn rhan o'u cyllideb eleni gan fod yr Adran Drafnidiaeth wedi derbyn mwy o arian er mwyn bwrw ymlaen gyda HS2.

Yn wreiddiol, roedd Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddai Cymru'n derbyn yr arian ond fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ddarganfod bod yr arian wedi cael ei roi fel rhan o gyllideb 2015-16 ei llywodraeth.

Fe wnaeth y Trysorlys wadu hyn, gan ddweud na fyddai Cymru yn derbyn yr hyn sy'n cael ei alw'n symiau canlyniadol Barnett oherwydd bod HS2 yn brosiect o fudd i'r Deyrnas Unedig gyfan.

Wedyn dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Yn y rownd wariant ym mis Mehefin, derbyniodd Llywodraeth Cymru ddosraniad cyfalaf o £84.5m.

"Roedd hyn yn seiliedig ar gynnydd o £2 biliwn yng nghyfanswm cyllideb gyfalaf yr Adran Drafnidiaeth.

"Cafodd hyn ei gyfrifo drwy fformiwla Barnett, gan ddefnyddio'r fframwaith a osodwyd yn Adolygiad Gwariant 2010, sef bod 73.1% o'r newidiadau yng ngwariant yr Adran Drafnidiaeth yn golygu taliadau canlyniadol Barnett ar gyfer Llywodraeth Cymru.

"Mae disgwyl y bydd y fformiwla'n cael ei diweddaru yn yr Adolygiad Gwariant llawn nesaf, sy'n arferol, a bydd yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant adrannol."

'Yn eglur'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch fod y sefyllfa bellach yn eglur."

Yn ddiweddar fe wnaeth y BBC ddarganfod drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth bod rhai ardaloedd o Brydain yn wynebu colli arian yn sgil adeiladu HS2.

Roedd Caerdydd yn un o'r ardaloedd hyn sy'n wynebu colli hyd at £68m y flwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol