Cynllun arloesol: Ceisio creu tai ac ynni fforddiadwy

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Solar
Disgrifiad o’r llun,
Tŷ Solar yw enw'r prototeip mae Western Solar wedi ei adeiladu

Mae cynllun arloesol yn gobeithio creu tai pren fforddiadwy yng ngorllewin Cymru.

Bwriad cwmni Western Solar o Rosygilwen, Sir Benfro ydy gwerthu tai pren gyda thoeon cyfan o baneli solar.

Maen nhw wedi adeiladu un tŷ gyda 55 panel solar ar y tô. Y nod ydy cael archebion ar gyfer 12 o dai'r flwyddyn nesaf. Byddai hynny'n creu 10 swydd.

Ond bydd rhaid i'r cwmni argyhoeddi cwmniau morgeisi ag yswiriant bod y cynllun tai pren yn un cynaliadwy yn ariannol hefyd.

Cost adeiladu y prototeip yn Rhosygilwen ydy £75,000. Dydi hynny ddim yn cynnwys cysylltu cartrefi gyda chyflenwad dŵr a thrydan, na'r tir i adeiladu tai arno. Ond mae diddordeb gan Lywodraeth Cymru.

Yr wythnos nesa' mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones lansio cynllun Tŷ Solar.

Gwaith lleol?

Disgrifiad o’r llun,
Mae John Thomas yn gefnogol o'r fenter

Os y bydd y cwmni yn adeiladu'r cartrefi pren mi allai olygu gwaith i fusnesau eraill yn yr ardal. Mi fyddai hynny yn newyddion da, meddai John Thomas, saer a chyd-berchennog cwmni Thomas Joinery.

"Mae'n beth mawr achos nid dim ond i ni fel cwmni... mae'n rhoi gwaith i gwmnie eraill allan yna fel y cwmnie glass a'r cwmnie coed a rhoi gwaith i bobl leol hefyd."

Yn ôl Glen Peters, y dyn tu ôl i'r fenter, mi ddylen nhw allu gwerthu tŷ fel hyn am tua £75,000. Mae'n cydnabod fodd bynnag mai'r cur pen pennaf fydd sicrhau digon o dir i adeiladu'r tai pren mae'n bwriadu eu cynhyrchu.

Mi fyddai'r pren yn dod o goed llarwydd a phîn Cymru a'r paneli solar o China.

Dywedodd y gymdeithas dai Cantref eu bod yn croesawu'r cynllun.

Maen nhw'n darparu cartrefi i bron 3,500 o denantiaid yng Ngheredigion, gogledd Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac ardal Machynlleth ym Mhowys.

Yn ôl prif weithredwr y gymdeithas, Lynne Sacale, mae angen mwy o ddewis o ran tai ar gyfer eu tenantiaid.

"... prosiectau creadigol newydd sydd yn mynd i helpu ni gynnal cartrefi newydd a chadw costau ynni i lawr," meddai.

"Felly ry'n ni yn gweithio gyda'r cwmni ynni, prosiectau newydd fel Tŷ Solar i ddatblygu adeiladu tai newydd sy'n cadw coste ynni lawr ac sy'n gynaliadwy."

Pris tir

Mae Gareth Williams o Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru yn dweud bod y data mae wedi ei weld yn dangos bod tŷ cyffredin tua 10-15% yn rhatach na thai wedi eu gwneud o bren.

Pris y tir ydy'r ffactor pwysig, meddai, er mwyn cadw'r gost i lawr.

"Y cyngor dwi wedi cael ydy hyn - mae'n bosib adeiladu tŷ fforddiadwy ar y pris yma ond eto mae'n dibynnu yn union lle mae'r tŷ a dibynnu yn union beth ydy pris y tir i gychwyn cyn adeiladu arno."

Elfen arall yn hyn i gyd ydy gwerth ariannol y paneli ynni haul ar dô'r Tŷ Solar. Gyda system 55 panel, gallai hynny fod gyfwerth a mil o bunnau'r flwyddyn. Byddai'n torri ar filiau ynni, a'r dyddiau hyn gallai hynny apelio at deuluoedd ar incwm isel, a thenantiaid.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol