Rheithfarn agored yn achos dyn 19 oed oedd ar goll

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithfarn agored wedi ei chofnodi yn achos dyn ifanc oedd wedi bygwth neidio oddi ar bont Menai.

Diflannodd Joe Hughes, 19 oed, ym mis Rhagfyr 2010.

Y noson honno mi oedd y dyn o Ddwyran, Sir Fôn, wedi ffraeo efo'i gyn cariad ac wedi meddwi.

Mi ddywedodd ei ffrind, Ella Nightingale o Gaerdydd, wrth y cwest ei fod wedi ei ffonio hi.

"Mi oedd yn crio ac yn dweud ei fod yn mynd i neidio oddi ar y bont."

Mi gysylltodd hi gyda'i ffrindiau eraill a aeth i chwilio amdano a chafodd y gwasanaethau brys eu galw.

Dywedodd y crwner Nicola Jones wrth ei deulu: "Dw i'n gwybod fod eich mab wedi bod yn yfed y noson honno ac nad oedd tu hwnt i amheuaeth resymol yn bwriadu lladd ei hun."