Pwll yr Unity: Cyhoeddi enw gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae gweinyddwyr wedi eu penodi ym mhwll mwya' Cymru wedi i'r rheolwyr ddweud nad oedd digon o waith ar gyfer y gweithwyr i gyd.
Gwnaeth rheolwyr y pwll yng Nghwmgwrach, Cwm Nedd, gais i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr dair wythnos yn ôl.
Roedden nhw wedi dweud bod digon o waith i 66 nid 220.
Dywedodd Andy Beckingham, cyd weinyddwr Cork Gully LLP: "Bydd modd cael dyfodol tymor hir os yw'r buddsoddiad yn gywir.
"Rydym yn anelu at drafod â buddsoddwyr posib' a chydweithio gyda chyfarwyddwyr, cyflenwyr a gweithwyr fel bod modd i'r pwll gyrraedd ei botensial."
94%
Ym mis Medi dywedodd y BBC fod 94% o lo Cymru yn dod o safleoedd glo brig, gyda'r gweddill yn dod o byllau drifft fel Unity.
Agorodd pwll Unity yn 2007 gyda chronfa o hyd at 90 miliwn tunnell o lo ar gael yno.
Gall gweithwyr gyrraedd pwll drifft o'r wyneb.
Straeon perthnasol
- 10 Hydref 2013
- 4 Hydref 2013
- 16 Awst 2013