Torri awr o'r siwrne rhwng y de a'r gogledd?
- Cyhoeddwyd

Mae Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd (ORR) wedi cadarnhau y bydd rheilffyrdd de Cymru a'r Cymoedd yn cael eu trydaneiddio.
Yn ogystal bydd gwaith yn cael ei wneud i wella'r system signalau rhwng Casnewydd a Llandudno ac ar gledrau'r gogledd.
Network Rail fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith a bydd yn golygu oedi dros benwythnosau am gyfnod.
Ond y gobaith yw y bydd amser y siwrne rhwng Caerdydd a'r gogledd yn cael ei dorri o bedair awr i dair ac y bydd y siwrne rhwng y de a Llundain yn gyflymach hefyd.
90% o drenau ar amser
Mae cynlluniau terfynol yr ORR ar gyfer 2014 i 2019 yn cynnwys cynlluniau i wario dros £21 biliwn ar reilffyrdd Prydain.
Maen nhw hefyd yn gosod targed bod 90% o drenau lleol yn rhedeg ar amser rhwng 2014 a 2019.
O'r £21 biliwn bydd canran yn cael ei wario ar welliannau i reilffyrdd yng Nghymru.
Yn siarad ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd yr Athro Stuart Cole o Ganolfan Trafnidiaeth Cymru:
"Yng Nghymru rydym yn siarad am wario rhywbeth fel biliwn o bunnoedd ac o hyn bydd £400 miliwn yn mynd ar drydaneiddio llinellau'r Cymoedd a'r lein o dde Cymru i Lundain
"Bydd £200 miliwn arall yn cael ei wario ar signalau newydd ar y cledrau lan i Gaer o Gasnewydd ac ar draws o Gaer i Landudno a Chaergybi.
"Yr Amcan yw tynnu lawr yr amser rhwng Caerdydd a Chyffordd Llandudno o bedair awr i dair awr gan bydd y trenau yn mynd yn fwy cyflym achos y signalau newydd."
Cyn eu bod nhw'n derbyn yr arian bydd angen i Network Rail gytuno i'r cynlluniau yn ogystal â'r targedau.
Yn ychwanegol i sicrhau gwasanaethau mwy dibynadwy mae gofyn i'r cwmni leihau eu costau dydd-i-ddydd o 20%.
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2013
- 9 Ionawr 2013
- 16 Gorffennaf 2012