Lladrad Llansawel: Cyhuddo dau

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dau ddyn yn dilyn lladrad yn siop bwcis Ladbrokes yn Llansawel ger Castell Nedd ddydd Mawrth.

Bydd Craig Britton, 30 o Gastell Nedd a David William McDonald o Lansawel o flaen ynadon Castell Nedd yn hwyrach.

Mae Britton wedi ei gyhuddo o ladrata tra'n meddu ar arf a llafn iddo. Mae McDonald yn wynebu cyhuddiad o ladrata a bod gyda chyffur rheoledig yn ei feddiant.

Cafodd saith arall eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw bellach ar fechnïaeth tra mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol