180 o swyddi yn diflannu mewn pwll glo
- Cyhoeddwyd

Mae 180 o weithwyr wedi colli eu gwaith ym mhwll glo mwyaf Cymru.
Cafodd y gweinyddwyr ei galw mewn i bwll Unity yng Ngwmgwrach yng Nghwm Nedd dair wythnos yn ôl.
Mae'r gweinyddwyr wedi dweud y gallai'r pwll oresgyn yn yr hir dymor os daw 'na fuddsoddiad.
Maen nhw hefyd wedi dweud bod 'na sawl busnes wedi bod yn holi am y pwll ac y bydd 30 o bobl yn parhau i weithio yno tra bod y pwll glo yn chwilio am brynwr newydd.
Yn y misoedd diwethaf mae'r 220 o weithwyr wedi bod yn rhannu shifftiau ar ôl cael gwybod bod 'na ddim digon o waith ar gyfer pawb.
Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth.
Dywedodd hefyd bod 'na sialensiau wedi wynebu'r busnes a hynny wedi golygu ei bod nhw wedi gorfod galw'r gweinyddwyr.
Yn y gorffennol mae Wayne Thomas o'r undeb NUM wedi dweud bod 'na rhwng 10-20 mlynedd o waith ar ôl yn y pwll.
'Ergyd galed'
Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Castell-nedd Peter Hain:
"Mae hon yn ergyd galed i'r glowyr, eu teuluoedd a'r gymuned leol.
"Mae undeb y glowyr, Llywodraeth Cymru a minnau wedi gweithio'n galed i geisio achub y swyddi ond yn ofer yn anffodus.
"Rwyf wedi gofyn i'r gweinyddwr gadw'r 25 o brentisiaid yn y gwaith ynghyd â staff cynnal a chadw fel bod glowyr y dyfodol yn gallu parhau gyda'u hyfforddiant ar gyfer cymwysterau - heb hynny fe fyddai unrhyw obaith o gymhwyso'n llawn yn cael ei niweidio'n ddrwg.
"Mae'r gweinyddwr wedi dweud wrthyf fod nifer o fuddsoddwyr wedi dangos diddordeb mewn achub y pwll, ac rwyf wedi gofyn i bopeth gael ei wneud i sicrhau buddsoddiad newydd o'r fath.
"Mae'r pwll yn cynnwys glo caled o'r safon uchaf ac mae galw drwy'r byd amdano. Gyda'r buddsoddwyr iawn fe allai'r pwll gael dyfodol disglair gyda swyddi gyda chyflog uchel a sgiliau.
"Rhaid i ni wneud i hyn ddigwydd neu mae'n ddinistriol i Gwm Nedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd16 Awst 2013
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2013