Dechrau gwych i Donaldson

  • Cyhoeddwyd
Jamie DonaldsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Jamie Donaldson rownd agoriadol o 67

Mae Jamie Donaldson wedi cael dechrau gwych yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Golff y Byd yn Shanghai.

Gorffennodd y golffiwr o Bontypridd y diwrnod cyntaf gyda rownd o 67 - pum ergyd yn well na'r safon - i fod yn gydradd ail.

Rory McIlroy o Ogledd Iwerddon sydd ar y blaen gyda sgôr o 65, ac mae Donaldson yn gyfartal â Gonzalo Fernandez-Castano o Sbaen.

Mae Donaldson ergyd o flaen criw o gystadleuwyr sy'n cynnwys Justin Rose - pencampwr agored yr Unol Daleithiau - a Bubba Watson a enillodd Meistri America yn 2012.

Bydd yr ail rownd yn dechrau yn ddiweddarach nos Iau.