Caerdydd wedi'u cyhuddo wedi'r gêm

Chwaraewyr Caerdydd a Norwich Image copyright Getty Images
Image caption Bu chwaraewyr o'r ddau dîm yn dadlau ar y cae yn y digwyddiad

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhuddo clybiau Caerdydd a Norwich o fethu â rheoli eu chwaraewyr yn ystod y gêm rhwng y ddau yn yr Uwchgynghrair ddydd Sadwrn.

Gorffennodd y gêm yn ddi-sgor, ond fe aeth pethau'n fler rhwng y ddau dîm ar y cae yn dilyn digwyddiad yn y funud olaf.

Roedd golwr Caerdydd, David Marshall, wedi taflu'r bêl allan er mwyn i un o chwaraewyr Norwich gael triniaeth wedi anaf.

Yr arferiad pan mae hyn yn digwydd yw bod y tîm arall yn rhoi'r bêl yn ôl i'r golwr, ond yn lle hynny fe darodd Leroy Fer y bêl i gefn y rhwyd gan hawlio gôl.

Ni chafodd y gôl ei chaniatàu gan y dyfarnwr am nad oedd wedi chwythu ei chwiban i ail-ddechrau'r gêm, ond bu chwaraewyr o'r ddau dîm yn dadlau gyda'i gilydd ar y cae.

Mae gan y ddau glwb tan 6:00pm ar ddydd Llun, Tachwedd 4, i ymateb i'r cyhuddiad.