Carw'n achosi anafiadau difrifol

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys gan Ambiwlans Awyr Cymru

Mae dyn yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol wedi i garw ymosod arno.

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru eu galw am 9:10am fore Iau i Saron ger Llandysul yn dilyn yr ymosodiad.

Bu'n rhaid i griw'r ambiwlans rhoi anesthetig i'r dyn a rhoi llawdriniaeth iddo yn y fan a'r lle.

Roedd ganddo anafiadau difrifol a niferus.

Cafodd y dyn ei gludo yn yr hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe lle bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys unwaith eto.

Wrth gyrraedd yr ysbyty roedd y dyn mewn cyflwr difrifol iawn ond sefydlog.